Ennill gwobrau ariannol wrth helpu natur
Wedi ei sefydlu i gefnogi gwaith Cadwch Gymru’n Daclus, Loteri Cymru Hardd yw eich cyfle i chwarae rhan yn cefnogi’r gwaith hollbwysig sy’n cael ei wneud gan elusen sydd wedi ymrwymo i ddiogelu ein hamgylchedd nawr ac i’r dyfodol.
Amdanom niSut mae Loteri Cymru Hardd yn gweithio
Rydym wedi gwneud ymuno â Loteri Cymru Hardd mor syml â phosibl!
Ar ôl cofrestru byddwn yn anfon eich rhifau atoch chi.
Cynhelir y loteri bob dydd Llun a byddwn yn anfon e-bost atoch yn rhoi gwybod i chi os ydych yn enillydd.
Sut mae’n gweithioSut mae chwarae yn helpu
Trwy chwarae Loteri Cymru Hardd rydych yn cefnogi’r gwaith gwerthfawr y mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ei wneud i greu Cymru Hardd y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau.
Creu natur ar garreg ein drws
Cefnogi prosiectau amgylcheddol a natur
Adeiladu cymunedau
Chwarae a diogelu – drwy weithredu ymarferol ac addysg amgylcheddol, i osod safonau ar gyfer parciau a thraethau.
Barod i chwarae?
Mae ond yn cymryd dwy funud ac fe gewch eich cynnwys yn y loteri i ennill £25,000