Mae’r loteri’n cael ei thynnu bob dydd Llun

Amdanom ni

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn elusen sydd wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau lleol ledled Cymru i ddiogelu ein hamgylchedd nawr ac i’r dyfodol.

Mae amgylchedd glân, gwyrdd lleol nid yn unig yn diogelu bioamrywiaeth ond mae hefyd yn gwella lles, ac yn chwarae rhan hanfodol yn datblygu cymunedau cryf a chydnerth; y cymunedau hynny sydd yn gwbl greiddiol i bopeth y mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ei wneud.

Mae’n amlwg bod yr angen i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol yn bwysicach nag erioed.

Gwyddom y bydd y blynyddoedd i ddod yn dal i fod yn her i lawer o elusennau yng Nghymru, yn ogystal ag i’r cymunedau yr ydym yn byw ynddynt. Gyda disgwyl i gyllid leihau, mae’n bwysig ein bod yn parhau i gydweithio i wireddu ein huchelgeisiau ar y cyd.

Diolch am gefnogi ein gwaith (gan ddymuno pob lwc i chi gyda’ch tocyn loteri!)

Owen Derbyshire
Prif Weithredwr, Cadwch Gymru’n Daclus

Cymru Hardd: ein strategaeth ar gyfer y degawd

Gellir olrhain tarddiad Cadwch Gymru’n Daclus yn ôl i’r 1950au, pan arweiniodd balchder ar ôl y rhyfel yn y DU y ffordd i fynd i’r afael â phroblem gynyddol sbwriel. Ymatebodd Sefydliad y
Merched trwy greu grŵp Keep Britain Tidy.

Yna ym 1972, lansiwyd ymgyrch Cadwch Gymru’n Daclus, ac nid ydym wedi edrych yn ôl ers hynny.

Er ein bod yn parhau i frwydro yn erbyn sbwriel, mae ein gwaith wedi tyfu i gynnwys cwmpas llawer ehangach o ofal amgylcheddol. Yn 2022, lansiodd Cadwch Gymru’n Daclus strategaeth syml ond uchelgeisiol lle gwnaethom addewid i ddileu sbwriel a gwastraff, gosodwyd safonau ar gyfer rhagoriaeth amgylcheddol, creu ac adfer mannau gwyrdd a grymuso ieuenctid ar faterion amgylcheddol.

Mae ein strategaeth yn amlinellu’r ffordd y byddwn yn parhau i gydweithio â’r llywodraeth, cyrff cyhoeddus, sefydliadau partner, grwpiau cymunedol a’n byddin o wirfoddolwyr i greu gwlad y gallwn fod yn falch o’i galw’n hardd.

Darllenwch ein strategaeth

Ein gwaith

Dileu sbwriel a gwastraff

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithio gyda chymunedau a phartneriaid awdurdod lleol i gadw ein hamgylchedd yn lanach ac yn fwy diogel.

Mae ein gwaith i atal sbwriel yn cynnwys ymgyrchoedd newid ymddygiad, cefnogi Hybiau Codi Sbwriel ac Ardaloedd Di-sbwriel a gweithio gyda byddin o wirfoddolwyr anhygoel.

Unwaith y byddwch wedi ymuno â’n loteri, beth am fynd i’n tudalennau gwirfoddoli i weld sut gallwch fod yn rhan o’r gwaith anhygoel hwn?

Creu ac adfer mannau gwyrdd

Mae mannau gwyrdd hygyrch yn hafan i bobl a natur, yn gwella iechyd a lles ac yn diogelu bioamrywiaeth.

Mae ein gwaith natur a chadwraeth trwy raglenni fel Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn grymuso cymunedau i ofalu am eu mannau gwyrdd lleol, diogelu bywyd gwyllt, a bwydo i mewn i’r ymdrech fyd-eang ehangach i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.

Os ydych yn gwybod am le sydd angen cymorth Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ewch i weld sut gallwch wneud cais.

Gosod safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol

Mae ansawdd amgylcheddol yn greiddiol i ddiben Cadwch Gymru’n Daclus. Rydym yn arbennig o falch i fod yn rheoli nifer o rhaglenni gwobrwyo pwysig yng Nghymru yn cynnwys y Faner Las, y Faner Werdd a Goriad Gwyrdd – sydd i gyd wedi eu sefydlu i hyrwyddo ac ysgogi rhagoriaeth amgylcheddol.

Mae gan Gymru gyfoeth o draethau, parciau a mannau gwyrdd trawiadol sy’n chwifio baneri, i chi ymweld â nhw. Ewch draw i'n gwefan i ddod o hyd i'r un agosaf atoch chi.

Grymuso Pobl Ifanc

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn credu mewn rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i bobl ifanc i ysgogi newid amgylcheddol cadarnhaol. Pobl ifanc heddiw yw gwneuthurwyr polisïau, perchnogion busnes a defnyddwyr yfory.

Rydym yn ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru i gyflwyno rhaglen addysg amgylcheddol yn seiliedig ar y cwricwlwm trwy Eco-Sgolion ac yn ddiweddar wedi ymgysylltu â thîm Bwrdd Ieuenctid eithriadol i herio ein honiadau ac arwain ein gwaith o ymgysylltu â grŵp newydd, iau o gefnogwyr amgylcheddol.

Barod i chwarae?

Mae ond yn cymryd dwy funud ac fe gewch eich cynnwys yn y loteri i ennill £25,000

Sut mae’n gweithio Chwarae nawr