Mae’r loteri’n cael ei thynnu bob dydd Llun

Diolch

>

Diolch am gefnogi loteri Cadwch Gymru’n Daclus a’n gwaith i greu a chynnal Cymru Hardd – rydym wrth ein bodd eich bod yn ymuno â ni.

Trwy chwarae ein loteri, rydych yn helpu Cadwch Gymru’n Daclus yn uniongyrchol i greu, adfer a chynnal Cymru hardd y gall pawb ei mwynhau ac fel elfen ychwanegol, gallech ennill £25,000 yn y loteri wythnosol!

Byddwch yn derbyn manylion eich Debyd Uniongyrchol ar e-bost cyn bo hir. Bydd hwn yn cynnwys y dyddiad y bydd eich taliadau’n dechrau a chopi o Warant y Debyd Uniongyrchol. Ar ôl hyn, byddwch yn derbyn e-bost yn eich croesawu, fydd yn cynnwys eich rhifau lwcus, cyfeirnod chwaraewr, a gwybodaeth am y loteri wythnosol a’r gwobrau y byddwch yn cael cyfle i’w hennill. Bydd yr ebost hefyd yn manylu sut y gallwch ddiweddaru eich manylion personol.

Os ydych yn enillydd lwcus, byddwn yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi. Gallwch hefyd edrych ar y canlyniadau diweddaraf ar ein gwefan bob wythnos.

Diolch am gefnogi Loteri Cymru Hardd a phob lwc!