Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod chwarae yn hwyl. Rydym yn cymryd hyn o ddifrif.
Polisi Gamblo Cyfrifol BriteVox t/a ZenterPrize
Beth yw Gamblo Cyfrifol?
Mae Gamblo Cyfrifol yn gysyniad cyffredinol y dylai unrhyw fath o gamblo gynnal egwyddorion y Ddeddf Gamblo a dylai hefyd gael ei gynnal yn ddiogel ac yn gyfrifol er mwyn i gamblo allu cael ei fwynhau ond nad yw byth yn niweidiol i unigolion neu eu teuluoedd.
Dyma 3 amcan y Ddeddf Gamblo:
- atal gamblo rhag bod yn ffynhonnell trosedd ac anrhefn, bod yn gysylltiedig â throsedd ac anrhefn, neu gael ei ddefnyddio i gefnogi troseddu
- sicrhau bod gamblo yn cael ei wneud mewn ffordd deg ac agored
- diogelu plant a phobl agored i niwed eraill rhag cael eu niweidio neu ddioddef camfanteisio trwy gamblo.
Gall gamblo fod yn ffordd hwyliog o gael eich diddanu, sy’n rhoi boddhad, ond os na chaiff ei reoli’n iawn yn unigol neu fel hyrwyddwr, gall arwain at ganlyniadau negyddol.
Dylai cwsmeriaid bob amser fod yn ymwybodol o’r tebygolrwydd neu’r cyfleoedd i ennill, yr holl delerau ac amodau a dylid eu hannog i chwarae gyda’r hyn y maent yn gallu ei fforddio yn unig, a swm y maent yn mwynhau chwarae gydag ef.
Ein polisi yw defnyddio dull ystyriol o gynnig cymorth i unrhyw gwsmeriaid er enghraifft cydnabod arwyddion problem gamblo a diogelu cwsmeriaid a allai fod yn agored i niwed, a bod yn ymwybodol o hyn tra’n parhau i hyrwyddo unrhyw weithgareddau gamblo.
Byddwn yn cynnig cefnogaeth a chymorth i unrhyw un sy’n gwneud cais amdano, ac i unrhyw un sy’n ymddangos fel pe baent yn cael eu heffeithio gan broblem gamblo mewn ffordd gyfrinachol, dryloyw a thosturiol.
Mae ZenterPrize yn ei wneud yn ofynnol hefyd i’w staff, contractwyr a chwmnïau marchnata y mae’n eu contractio i gynnal gwerthoedd y polisi hwn, a chydymffurfio â Deddf Gamblo 2005 ac Amodau a Chodau Ymarfer y Drwydded fel y’u darperir gan y Comisiwn Gamblo, a’u bod yn deall ac yn gorfodi pwysigrwydd gamblo sy’n gyfrifol yn gymdeithasol.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu polisïau’r cwmni tuag at agweddau amrywiol gamblo cyfrifol.
-
Atal Trosedd ac Anhrefn
- Bydd ZenterPrize yn atal y gweithgaredd gamblo y mae’n ei hyrwyddo rhag bod yn ffynhonnell neu gefnogi trosedd ac anhrefn.
- Bydd yn gwneud hynny trwy leihau’r swm o arian y gall cwsmeriaid ei roi i mewn i’r loteri a thrwy sicrhau bob amser bod elw’r loteri ond yn cael ei dalu trwy ddebyd uniongyrchol i mewn i gyfrif banc/cymdeithas adeiladu enwebedig y gymdeithas/elusen.
- Dylai holl lysgenhadon a phersonél y brand sy’n ymdrin â chwsmeriaid adrodd i’r cwmni marchnata neu ZenterPrize ar unwaith os oes ganddynt unrhyw bryderon neu amheuon yn ymwneud â gweithgareddau troseddol yn ymwneud â loteri.
-
Gamblo Teg ac Agored: Iaith a marchnata clir a thryloyw
- Mae ZenterPrize yn credu mewn sicrhau bod yn rhaid i hyrwyddo loteri gael ei wneud yn deg, yn agored ac mewn ffordd sy’n cydymffurfio.
- Ein polisi yw sicrhau bod yr holl ddeunyddiau yn cael eu hysgrifennu mewn iaith glir a’u bod yn hawdd i’w deall a bod telerau gamblo’n cael eu gwneud yn glir a’u bod ar gael ymlaen llaw i bob cwsmer.
- Mae’n rhaid i holl lysgenhadon a phersonél y brand sy’n ymdrin â chwmseriaid fod wedi cael hyfforddiant cydymffurfio a Diogelu Cwsmeriaid rhag Rheoliadau Masnachu Annheg ac mae’n ofynnol iddynt gynnal gweithgaredd marchnata sy’n cydymffurfio â’r canllawiau hyn.
- Dylai’r holl lysgenhadon y brand a phersonél sy’n ymdrin â chwsmeriaid gyfeirio cwsmeriaid sy’n dymuno cael mwy o wybodaeth am y loteri i’r telerau ac amodau neu gysylltu â ZenterPrize neu’r gymdeithas/elusen am fwy o wybodaeth.
-
Diogelu Plant a Phobl Ifanc
- Polisi ZenterPrize yw sicrhau mai dim ond pobl 16 oed neu’n hŷn (yn ôl y gyfraith) a gainateir i gymryd rhan yn yr ymgyrchoedd loteri y mae’n eu hyrwyddo.
- Bydd cleientiaid ZenterPrize yn aml yn gosod terfyn oedran uwch ar gyfer chwaraewyr loteri wyneb yn wyneb, mae hyn yn aml yn 25 oed ac yn hŷn a chaiff ei gadarnhau ar gyfer pob ymgyrch. Mae’n rhaid i chwaraewyr sydd eisiau ymuno â loteri fod yn 18 neu’n hŷn, ond o dan y terfyn oedran wyneb yn wyneb, fel y cytunwyd gan gleientiaid ZenterPrize, cânt eu cyfeirio i ymuno â’r loteri’n uniongyrchol gyda’r gymdeithas.
- Bydd angen i bob cwsmer gadarnhau eu hoedran eu hunain fel rhan o’r broses ymuno.
- Os yw llysgennad y brand neu aelod o staff ZenterPrize ei hun yn bryderus am oedran cwsmer, dylent ofyn am gadarnhad gan y cwsmer yn unol â’r Weithdrefn Dilysu Oedran.
-
Diogelu Pobl Agored i Niwed
- Polisi ZenterPrize yw y dylid diogelu cwsmeriaid sy’n agored i niwed neu a allai fod yn agored i niwed rhag niwed posibl a ellir ei achosi gan gamblo. Gyda hyn mewn golwg, ni ddylid gofyn neu gynnwys cwsmeriaid sy’n agored i niwed neu a allai fod yn agored i niwed ar gyfer yr ymgyrchoedd loteri y mae ZenterPrize yn eu hyrwyddo. Am fwy o wybodaeth, gweler y Polisi Agored i Niwed.
- Gall bod yn agored i niwed yng nghyd-destun loteri fod ar sawl ffurf: yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i rywun na all wneud penderfyniad gwybodus, neu sydd â diffyg dealltwriaeth o’r loteri neu os nad ydynt yn rhugl yn Saesneg, rhywun sydd yn methu fforddio cymryd rhan mewn loteri, rhywun sydd yn oedrannus neu’n ifanc iawn ac efallai’n methu gwneud eu penderfyniadau ariannol eu hunain, rhywun sydd eisiau gamblo yn rhy aml neu gyda symiau mawr, neu rywun sydd mewn trallod neu o dan bwysau.
- Mae’r holl bersonél sy’n ymdrin â chwsmeriaid a’r llysgenhadon brand yn cael hyfforddiant ar y ffordd i adnabod rhywun sydd yn agored i niwed a sut i ddod â sgwrs werthu i ben yn gwrtais a lle bo angen, rhoi gwybodaeth ynghylch cael cymorth pellach.
-
Rhyngweithio â chwsmeriaid
- Mae rhyngweithio â chwsmeriaid yn ymwneud â’r ffordd i ymateb os ydych yn nodi cwsmeriaid a allai fod mewn perygl o ddatblygu problemau gamblo, neu sy’n ymddwyn yn amheus, yn ymddangos yn agored i niwed neu sydd, yn syml, yn mynd y tu hwnt i derfyn y ceisiadau, sydd wedi ei bennu ymlaen llaw.
- Polisi ZenterPrize yw hyfforddi ac addysgu’r holl bersonél sy’n ymdrin â chwsmeriaid a llysgenhadon brand ar gamblo cyfrifol a sut y gallwn, ar y cyd, adnabod hyn a chefnogi unigolion a allai fod â phroblem gamblo, neu sut i adrodd am unrhyw bryderon.
- Er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau i’r gymdeithas/elusen ac i leddfu unrhyw bryderon am broblem gamblo, ni ellir gwerthu mwy na 2 gais fesul cwsmer i gwsmer ar unrhyw adeg nac yn gronnol, ac os yw cwsmer yn dymuno mynd y tu hwnt i’r terfyn hwn, mae yna weithdrefn rhyngweithio â chwsmeriaid.
- Gall y rhyngweithio hwn gynnwys eu cynghori am sefydliadau y gallant gysylltu â nhw i drafod eu sefyllfa ymhellach, fel BeGambleAware, GamCare a Llinell Gymorth Genedlaethol Gamblo. Mae manylion y sefydliadau hyn ar waelod y ddogfen hon.
-
Hunan-eithrio
- Mae ZenterPrize yn cefnogi unrhyw gwsmeriaid sy’n dymuno hunan-eithrio a chyfyngu eu gamblo eu hunain a bydd yn sicrhau y gellir trafod yr opsiynau hynny mewn ffordd breifat a, lle y bo’n bosibl, mewn ffordd gyfrinachol rhwng y cwsmer a llysgennad y brand a/neu’r personél sy’n ymdrin â chwsmeriaid.
- Polisi ZenterPrize yw sicrhau bod unrhyw gwsmeriaid nad ydynt yn dymuno hunan-eithrio yn ymwybodol o’r broses a’r canlyniadau, yn cynnwys:
- Rydym yn eu hannog i hunan-eithrio o bob math o loteri y mae ZenterPrize yn eu marchnata, a hefyd unrhyw fath o gamblo y gallant gymryd rhan ynddo.
- Mae’n rhwymol ac yn derfynol am o leiaf 6 mis unwaith mae’r cwsmer yn cadarnhau eu bod yn dymuno hunan-eithrio
- Dim ond gweithredu cadarnhaol gan y cwsmer ar ôl y cyfnod cychwynnol o 6 mis fydd yn golygu y gall y cwsmer wedyn gymryd rhan mewn loteri y mae ZenterPrize yn ei hyrwyddo.
- Cânt eu cyfeirio at sefydliadau a all gynnig cymorth, cefnogaeth a gwybodaeth bellach, h.y. GambleAware, GamCare a Llinell Gymorth Genedlaethol Gamblo.
-
Problem Gamblo: Beth i’w wneud os ydych chi neu ffrind neu aelod o’r teulu yn datblygu problem gamblo
- Polisi ZenterPrize yw helpu a chefnogi unrhyw unigolion sydd angen unrhyw gymorth ond yn arbennig y rheiny sydd angen cymorth gyda’u gamblo trwy hyrwyddo gwaith sefydliadau arbenigol sydd yn gallu cynorthwyo unigolion a’u teuluoedd gyda phroblem gamblo. Croesewir y sgyrsiau hyn a’u trin yn sensitif ac yn gyfrinachol.
- Os oes gan lysgenhadon brand a phersonél sy’n ymdrin â chwsmeriaid unrhyw bryderon am gamblo unigolion, neu os yw aelod o’r cyhoedd yn codi pryderon am gamblo ffrind neu aelod o’r teulu, bydd ZenterPrize yn darparu gwybodaeth ar eu cyfer am gysylltu â sefydliadau a all drafod y mater yn gyfrinachol gyda nhw, fel GambleAware, GamCare a Llinell Gymorth Genedlaethol Gamblo.
- Mae ZenterPrize yn aelod o Gyngor y Loteri a thrwy’r aelodaeth hon mae’n rhoi cyfraniad blynyddol i sefydliadau sy’n cefnogi pobl sydd wedi eu heffeithio gan broblem gamblo.
-
Cwynion
- Mae ZenterPrize wedi ymrwymo i gynnal safon uchel o wasanaeth cwsmeriaid gyda’r cyhoedd.
- Os bydd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bryderus neu os oes ganddynt unrhyw adborth yn ymwneud â’r dull o hyrwyddo’r loteri neu ymgyrch y loteri ei hun, gall gysylltu a ZenterPrize i godi ei bryderon yn customerservice@zenterprize.co.uk
- Bydd pob cŵyn ac adborth yn cael ei ddrin yn unigol, yn broffesiynol ac yn cael ei gydnabod ac yn derbyn ymateb cychwynnol o fewn 48 awr.
- Am fwy o wybodaeth am bolisi cwynion ZenterPrize, ewch i’n gwefan neu cysylltwch â ni yn uniogyrchol.
-
Ffynonellau Gwybodaeth
Mae’r sefydliadau canlynol yn gallu rhoi cyngor arbenigol a chymorth i alluogi gamblo cyfrifol ac i gynorthwyo mewn achos o broblem gamblo:
GambleAware – www.gambleaware.org
GamCare – www.gamcare.org.uk
Llinell Gymorth Genedlaethol Gamblo – 0808 8020 133