Cyflwyniad
Mae ZenterPrize wedi ymrwymo i ddarparu’r lefelau gwasanaeth uchaf ac yn croesawu adborth gan unrhyw unigolyn neu sefydliad. Mae’r adborth hwn yn werthfawr yn ein helpu ni i werthuso, dysgu a gwella ein gwasanaeth yn barhaus ac rydym yn cymryd unrhyw gwynion neu bryderon o ddifrif.
Ein nod yw ei wneud mor hawdd â phosibl i godi unrhyw bryderon neu gŵyn sydd gennych gyda ni. Bwriad ein gweithdrefn gwyno yw sicrhau bod pob cwyn yn cael ei thrin yn deg, yn brydlon, a, lle y bo’n bosibl, yn cael ei datrys fel bod yr achwynydd yn fodlon.
Cwynion ac Anghydfodau
Mae ZenterPrize yn deall cwyn i fod yn unrhyw fynegiad o anfodlonrwydd gan unrhyw un, p’un ai’n unigolyn neu’n sefydliad.
Yng nghyd-destun loteri a gamblo, mae cwyn yn fynegiant o anfodlonrwydd cyffredinol nad yw’n ymwneud â’r loteri.
Anghydfod yw cwyn heb ei datrys sy’n ymwneud â’r loteri sy’n ymwneud â chanlyniad trafodyn gamblo y cwsmer e.e. gallai’r cwsmer anghytuno â’r ffordd y mae’r loteri’n gweithio, ei degwch, ei broses ac ati, neu fod y drwydded wedi methu â chynnal yr amcanion trwyddedu.
Polisi ZenterPrize yw bod ei weithdrefn gwyno:
- yn hygyrch, yn glir ac yn hawdd ei deall
- yn sicrhau bod pob cwyn yn cael gwrandawiad cywir, yn cael ei chydnabod ac y gweithredir arni yn deg ac yn brydlon
- yn cael ei gweithredu’n gywir
- yn cael ei harchwilio, ei datrys ac yn cael ymateb o fewn cyfnod o amser a nodir
- yn cymryd camau priodol, os caiff cwyn ei chynnal
- yn cael ei gweithredu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018
Sut i ymateb i gŵyn neu anghydfod
Gallwch gyflwyno eich cwyn neu anghydfod yn ysgrifenedig gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod:
Drwy’r Post:
The Complaints Officer
BriteVox UK t/a ZenterPrize
Maple House
Queensway Business Park
Queensway
Telford
TF1 7UL
Ar E-bost: customerservice@zenterprize.co.uk
Cofiwch sicrhau bod eich cŵyn yn cynnwys cymaint o’r wybodaeth ganlynol â phosibl:
- Y dyddiad a’r lleoliad pan godwyd y gŵyn.
- Manylion eich cwyn.
- Enwau pawb sy’n gysylltiedig.
- Eich manylion cyswllt.
Eich gweithdrefn gwyno
- Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn 2 ddiwrnod gwaith o’i derbyn, ar e-bost.
- Byddwn yn ceisio datrys unrhyw gŵyn o fewn 10 diwrnod gwaith o’i derbyn.
- Caiff cwynion eu drin gan ein Tîm Cwynion mewn ffordd gwrtais.
- Os na ellir datrys y gŵyn gan y Tïm Cwynion o fewn 10 diwrnod gwaith, caiff ei huwchgyfeirio at y Pennaeth Gweithrediadau, fydd yn ymchwilio ac yn ceisio datrys y mater o fewn 10 diwrnod gwaith pellach.
Os, wrth gwblhau ymchwiliad ZenterPrize, bod y gŵyn yn dal heb ei datrys yn foddhaol, gallwch hefyd gysylltu â’r Rheoleiddiwr Codi Arian.
Ein gweithdrefn anghydfodau
- Byddwn yn cydnabod eich anghydfod o fewn 2 ddiwrnod gwaith o’i derbyn, ar e-bost
- Caiff anghydfodau eu rheoli gan y Pennaeth Gweithrediadau a’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau. Ym mhob achos, bydd ZenterPrize yn ceisio datrys unrhyw anghydfodau o fewn 8 wythnos o hysbysu’r mater gwreiddiol, gyda diweddariadau wythnosol i’r achwynydd.
- Os na ellir datrys yr anghydfod o fewn 8 wythnos o’r hysbysiad cychwynnol, yna dylid hysbysu’r cwsmer y gallai’r cwsmer, yn rhad ac am ddim, gyfeirio’r anghydfod am Ddatrysiad Anghydfod Amgen (ADR).
- Fel aelod o Gyngor y Loteri, yr Endid ADR cofrestredig y byddai ZenterPrize yn ei argymell yw: The Independent Betting Adjudication Service Ltd (IBAS) – PO Box 62639, London, EC3P 3AS, Ffôn: 020 7347 5883
Caiff y polisi hwn ei adolygu a’i ddiweddaru yn rheolaidd.
Polisi Cwynion BriteVox t/a ZenterPrize
Adolygwyd Gorffennaf 2022