Sut mae Loteri Cymru Hardd yn Gweithio
Rydym wedi gwneud ymuno â Loteri Cymru Hardd mor syml â phosibl!
Unwaith y byddwch wedi cofrestru byddwch yn derbyn e-bost yn rhoi gwybodaeth eich tocyn i chi a manylion llawn sut i reoli eich cyfrif yn hawdd os byddwch yn dymuno gwneud unrhyw newidiadau.
Mae pob tocyn yn cynnwys cyfuniad unigryw o chwe rhif unigol, bob un rhwng sero a naw sydd yn rhifau ar hap wedi eu dyrannu i chi.
Dyfernir gwobrau i chwaraewyr â thocynnau sy’n paru tri neu fwy o’r rhifau o’r cyfuniad buddugol yn y lle cywir. Parwch bob un o’r chwech a byddwch yn ennill y jacpot o £25,000!
Cynhelir y loteri bob dydd Llun gyda’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ar y wefan hon.
Os byddwch yn ennill gwobr ariannol, byddwn yn rhoi gwybod i chi ar e-bost ac yn talu eich enillion yn syth i’ch cyfrif banc cofrestredig.
O’r arian yr ydych wedi talu, bydd o leiaf 50% yn mynd i gefnogi gwaith Cadwch Gymru’n Daclus ledled Cymru.
Chwarae nawrGwobrau
Bydd y gwobrau’n cael eu dyfarnu i chwaraewyr â’r tocynnau sy’n cyd-fynd â thri neu fwy o’r rhifau o gyfuniad buddugol yr wythnos yn y lle cywir.
Canlyniad: | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Paru 6 rhif | ennill £25,000 | ||||||
Paru 5 rhif | ennill £250 | ||||||
Paru 4 rhif | ennill £20 | ||||||
Paru 3 rhif | dau gais am ddim |
Cwestiynau Cyffredin
Mae’n rhaid i’r chwaraewyr fod yn 18 oed neu’n hŷn ac wedi eu lleoli ym Mhrydain Fawr. Nid yw staff Cadwch Gymru’n Daclus a ZenterPrize yn gymwys i chwarae.
Mae Loteri Cymru Hardd yn seiliedig ar fformat tanysgrifiad sy’n ei wneud yn ofynnol i chwaraewyr sefydlu taliad misol. Gellir canslo tanysgrifiadau unrhyw bryd drwy anfon neges atom ar y ffurflen Cysylltu â ni.
Bydd y gwobrau’n cael eu dyfarnu i chwaraewyr gyda thocynnau sy’n paru tri neu fwy o rifau o gyfuniad buddugol yr wythnos yn y lle cywir.
Dewisir rhifau yn seiliedig ar y digidau olaf a gyhoeddwyd o dymheredd dinasoedd wedi eu penderfynu ymlaen llaw fel y nodir yn y Daily Mail.
Bydd yr enillwyr yn cael eu hysbysu ar e-bost a bydd yr arian yn cael ei dalu’n syth i’r cyfrif banc a ddefnyddiwyd i wneud y taliadau Debyd Uniongyrchol i gymryd rhan yn y loteri. Byddwn hefyd yn cyhoeddi rhifau buddugol o’r pum wythnos diwethaf ar ein tudalennau canlyniadau.
Dyrennir yr arian 50% i Cadwch Gymru’n Daclus i gefnogi prosiectau amgylcheddol lleol, a 50% i ZenterPrize sy’n rheoli’r loteri ar ein rhan i dalu gwobrau ac i weinyddu’r loteri. Os hoffech ganfod mwy am y prosiectau amgylcheddol a gwaith arall y mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ei wneud, ewch i’n gwefan https://keepwalestidy.cymru/cy/
Barod i chwarae?
Mae ond yn cymryd dwy funud ac fe gewch eich cynnwys yn y loteri i ennill £25,000