Diffiniadau
1.1. “Deddf” – Deddf Gamblo 2005.
1.2. “Loteri” – Loteri yn seiliedig ar danysgrifio y gymdeithas.
1.3. “Cynnwys” – Cynnwys Rhif Lwcus yn y Loteri.
1.4. “Canlyniad Loteri” – Y broses o ddewis enillwyr.
1.5. “Rhif Buddugol” – Fel y diffinnir yn 6.2.
1.6. “Cymdeithas” – Cadwch Gymru’n Daclus, Sbarc | Spark, Maindy Road, Caerdydd, CF24 4HQ. Rhif Cofrestru’r Cwmni: 4011164.
1.7. “ZenterPrize” – BriteVox Limited of BriteVox House, Queensway Business Park, Queensway, Telford, Shropshire, England, TF1 7UL, Rhif y Cwmni 10904538, yn masnachu fel ZenterPrize. Rheolwr Loteri Allanol (ELM) wedi ei drwyddedu a’i reoleiddio ym Mhrydain Fawr gan y Comisiwn Gamblo o dan rif cyfrif 57556. Mae ELM yn gwmni masnachol preifat wedi ei drwyddedu i weinyddu loterïau cymdeithas ar ran Cymdeithasau ym Mhrydain Fawr.
1.8. “Ni” “Ein”– ZenterPrize a/neu’r Hyrwyddwr.
1.9. “Chwaraewr” “Chi” “Eich” – Unigolyn sydd wedi ei gofrestru gyda’r Loteri.
1.10. “Rheolau” – Mae rheolau’r Loteri wedi eu nodi isod ac yn cael eu diwygio o bryd i’w gilydd.
1.11. “Cronfeydd Cwsmeriaid” – Fel y diffinnir gan y Comisiwn Gamblo ond, yn gyffredinol yn golygu arian a dderbyniwyd gan ZenterPrize gan Chwaraewyr i’w gynnwys mewn Loteri.
1.12. “Rhif Lwcus” – Y chwe digid a ddefnyddir i nodi Cynnwys rhywun yn y Loteri.
1.13. “Rhif Bonws” – Rhif Lwcus sy’n cael ei gynnwys mewn Loteri ar ôl paru tri digid mewn Canlyniad.
1.14. “Gwefan” – www.beautifulwaleslottery.cymru
1.15. “Hyrwyddwr” – Cymdeithas gofrestredig neu drwyddedig y Loteri sy’n hyrwyddo.
Cyflwyniad
2.1. Mae Loteri Cymru Hardd yn cefnogi Cadwch Gymru’n Daclus, Sbarc | Spark, Maindy Road, Caerdydd, CF24 4HQ. Rhif Elusen Gofrestredig: 1082058.
2.2 Hyrwyddir y Loteri ar y cyd gan ZenterPrize, sy’n gweinyddu’r loteri, a’r Gymdeithas.
Cofrestru
3.1. Bydd Cofrestru yn gofyn i Chi lenwi ffurflen gais a darparu’r wybodaeth ganlynol:
3.1.1. Eich enw a’ch cyfeiriad (Mae’n rhaid i chi breswylio ym Mhrydain Fawr i gael eich cynnwys).
3.1.2. Eich dyddiad geni.
3.1.3. Nifer y ceisiadau i gael eich Cynnwys yn y Loteri yr ydych yn dymuno eu prynu. Uchafswm y ceisiadau i gael eich Cynnwys mewn unrhyw Loteri yw 10. Os byddwch yn dewis cael eich cynnwys mwy na thair gwaith, bydd ZenterPrize yn cysylltu â chi i sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o’r costau.
3.1.4. Rhif ffôn cyswllt.
3.1.5. Cyfeiriad e-bost.
3.2. Yn dilyn cofrestru, bydd ZenterPrize yn anfon cadarnhad atoch Chi fydd yn cynnwys:
3.2.1. Dyddiad y Loteri gyntaf y byddwch yn cael eich cynnwys ynddi.
3.2.2. Eich Rhifau Lwcus.
3.2.3 Eich enw, cyfeiriad, ac unrhyw fanylion perthnasol eraill a roddir i ZenterPrize fel rhan o’ch cofrestru.
3.3. Os byddwch yn canfod gwall yn y manylion a ddarperir fel rhan o’ch cofrestru pan fyddwch yn derbyn eich cadarnhad, mae’n rhaid i chi gywiro hyn trwy hysbysu ZenterPrize gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar waelod y dudalen hon.
3.4. Eich cyfrifoldeb chi yw hysbysu ZenterPrize am unrhyw newid cyfeiriad, manylion cyswllt a manylion eraill yr ydych yn eu hystyried yn angenrheidiol.
3.5. Bydd ZenterPrize yn gwneud y cywiriadau gofynnol cyn gynted ag y bydd hynny’n rhesymol bosibl. Bydd unrhyw gywiriad yr hysbysir ZenterPrize amdano ond yn dod yn effeithiol unwaith bydd y cywiriad wedi cael ei wneud.
3.6. Bydd newidiadau i’r banc neu gymdeithas adeiladu a nodir yn ystod cofrestru yn gofyn am lenwi mandad Debyd Uniongyrchol newydd oni bai ei fod yn cael ei brosesu’n awtomatig trwy Bacs.
3.7. Rydym yn cadw’r hawl i wrthod cais heb roi rheswm yn ôl ein disgresiwn absoliwt.
Dilysu Oed
4.1. Mae’n drosedd chwarae Loteri o dan 16 oed.
4.2. Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn ar ddyddiad cais i ymuno a Loteri.
4.3. Os canfyddir eich bod o dan yr oedran a nodir, bydd y Gwobrau a enillir yn cael eu fforffedu, bydd ceisiadau’n cael eu tynnu’n ôl o unrhyw Loteri yn y dyfodol a bydd Cronfeydd Cwsmer yn cael eu had-dalu.
4.4. Rydym yn cadw’r hawl i gynnal gwiriadau dilysu a gofyn am unrhyw dystiolaeth y mae ZenterPrize yn ei hystyried yn angenrheidiol i brofi eich oed a’ch hunaniaeth.
Taliad
5.1. Y pris ar gyfer cymryd rhan yw £1, neu swm arall y gall ZenterPrize eich hysbysu yn ei gylch o bryd i’w gilydd.
5.2. Gellir talu trwy’r dulliau canlynol.
5.2.1. Debyd Uniongyrchol.
5.2.2. Unrhyw ddull arall fydd ar gael o bryd i’w gilydd.
5.3. I gydymffurfio â’r Ddeddf, dim ond ceisiadau y derbyniwyd taliad amdanynt ym mlaen llaw sydd yn gymwys i gael eu Cynnwys yn y Loteri.
5.3.1. Felly, mae’n rhaid bod ZenterPrize naill ai wedi derbyn eich Cronfeydd Cwsmer, neu wedi cael cadarnhad naill ai gan yr Hyrwyddwr neu ddarparwr gwasanaeth talu eu bod wedi derbyn eich Cronfeydd Cwsmer erbyn 5:00pm ar y dydd Iau cyn y Loteri wythnosol nesaf.
5.3.2. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod taliadau sy’n cael eu gwneud yn gywir.
5.4. Bydd ceisiadau’n dod i ben pan na fydd taliadau pellach yn cael eu derbyn, a bod eich Cronfeydd Cwsmer yn mynd yn annigonol i ariannu eich Cynnwys yn y Loteri.
5.5. Os bydd eich Cronfeydd Cwsmer yn dal yn annigonol i dalu am gael eich Cynnwys mewn Loteri am 12 mis neu fwy, bydd ZenterPrize yn ceisio trosglwyddo eich Cronfeydd Cwsmer sy’n weddill i’r cyfrif y gwnaethoch eich taliad ohono. Os na fydd ZenterPrize yn gallu gwneud hyn, bydd eich Cronfeydd Cwsmer sy’n weddill yn cael eu trosglwyddo fel cyfraniad i Hyrwyddwr y loteri yr ydych yn ei chwarae.
Canlyniad Loteri
6.1. Bydd y Canlyniad yn digwydd bob dydd Llun. Os na fydd hyn yn bosibl, fe’i cynhelir cyn gynted â phosibl ar ôl hynny.
6.2. Mae’r Rhif Buddugol yn rhif chwe digid sydd yn cynnwys y digid olaf a gyhoeddwyd o’r tymheredd Fahrenheit ar gyfer y lleoliadau a restrir isod, fel y’u cyhoeddwyd yn “The Daily Mail” neu bapur newydd arall y gall ZenterPrize (yn ôl ei ddisgresiwn) ei ddewis o bryd i’w gilydd. Fe’i pennir cyn y Canlyniad.
6.2.1. Corfu
6.2.2. Athens
6.2.3. Tenerife
6.2.4. Vienna
6.2.5. Amsterdam
6.2.6. Stockholm
6.3. Os bydd un neu fwy o’r chwe dinas a ddewiswyd yn cael eu hargraffu yn y papur newydd a ddewiswyd, bydd dinasoedd wrth gefn yn cael eu defnyddio yn y drefn hon:
6.3.1. Paris
6.3.2. Copenhagen
6.3.3. Berlin
6.3.4. Dublin
6.3.5. Lisbon
6.3.6. Strasbourg
Gwobrau
7.1. Bydd enillwyr y gwobrau yn cael eu pennu yn ôl a yw digidau eich Rhif Lwcus sydd wedi ei gynnwys, yn cyd-fynd a digidau’r Rhif Buddugol.
7.2. Er mwyn i ddigid eich Rhif Lwcus gyd-fynd â digid y Rhif Buddugol, mae’n rhaid iddo hefyd fod yn yr un safle.
7.3. Rhoddir Gwobrau fel a ganlyn:
7.3.1. Paru 6 digid, y wobr fydd £25,000.
7.3.2. Paru 5 digid, y wobr fydd £250.
7.3.3. Paru 4 digid, y wobr fydd £20.
7.3.4. Paru 3 digid, y wobr fydd 2 gais bonws i Loteri i ddod gan ddefnyddio Eich Rhif Lwcus.
7.4. Mae terfyn o un wobr fesul Loteri, fydd y wobr uchaf posibl y gellir ei rhoi ar gyfer y cais perthnasol.
7.5. Y tebygolrwydd o ennill yw:
7.5.1. Chwe Digid yn cyd-fynd 1 mewn 1,000,000
7.5.2. Pum Digid yn Cyd-fynd 1 mewn 18,518
7.5.3. Pedwar Digid yn Cyd-fynd 1 mewn 823
7.5.4. Tri Digid yn Cyd-fynd 1 mewn 69
7.6. Hysbysir enillwyr y Gwobrau dros e-bost o fewn 7 diwrnod o Ganlyniad y Loteri.
7.7. Cyhoeddir y Rhifau Buddugol ar y Wefan ac maent hefyd ar gael o swyddfa ZenterPrize ar gais.
7.8. Bydd pob gwobr ariannol yn cael ei thalu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc. Os na fydd taliad yn bosibl, byddwn yn cysylltu â chi i’ch galluogi i ddarparu gwybodaeth wedi ei diweddaru am eich banc neu ffordd arall o dalu. Os na fyddwn yn derbyn ymateb o fewn 6 mis o’r Canlyniad, bydd y wobr ariannol yn cael ei thrin fel cyfraniad i Hyrwyddwr y Loteri yr ydych yn ei chwarae.
7.9. Efallai y bydd angen i chi brofi eich bod wedi bodloni’r meini prawf a nodwyd yn y Rheolau hyn i hawlio gwobr. Mae ZenterPrize yn cadw’r hawl i gadw taliad unrhyw wobr yn ôl nes ei fod yn gwbl fodlon y cydymffurfiwyd â’r Rheolau yn llawn.
7.10. Nid oes unrhyw ddewisiadau amgen i’r gwobrau sy’n cael eu cynnig o bryd i’w gilydd ac nid oes unrhyw log yn daladwy.
Canslo Cais
8.1. Gallwch ganslo eich cais i gael eich Cynnwys yn y Loteri trwy hysbysu ZenterPrize trwy’r dull canlynol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar waelod y dudalen hon:
8.1.1. Post.
8.1.2. E-bost.
8.1.3. Ffurflen ar y Wefan.
8.2. Wrth dderbyn eich cais i ganslo, bydd ZenterPrize yn:
8.2.1. Canslo taliadau Debyd Uniongyrchol yn y dyfodol cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol.
8.2.2. Canslo taliadau cerdyn Debyd yn y dyfodol cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol.
8.3. Gallwch wneud cais am ad-daliad o’r taliadau a wnaed cyn i’r hysbysiad canslo gael ei dderbyn ond sydd heb gael eu defnyddio i dalu am gael eich Cynnwys. Bydd ZenterPrize yn ad-dalu trwy drosglwyddiad banc i’ch cyfrif banc a enwebwyd.
8.4. Os byddwch yn dymuno ailymuno â’r Loteri yn ddiweddarach, bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen gofrestru newydd.
Hunan-eithrio
9.1. Gall cyfarwyddyd i gael eich hunan-eithrio, fel y diffinnir gan y Comisiwn Gamblo, o’r Loteri gael ei anfon drwy’r post, trwy ffurflen ar y Wefan, neu ar e-bost gan ddefnyddio’r manylion ar waelod y dudalen hon.
9.2. Ni fydd cwsmeriaid sy’n dymuno defnyddio’r cyfleuster hwn yn gallu ailymuno â’r Loteri am isafswm o 6 mis o’r dyddiad eithrio.
9.3. Mae canlyniadau’r hunan-eithrio a gweithdrefnau llawn ZenterPrize ar gael gan ZenterPrize ar gais; Fe’ch anogir i ddarllen y rhain cyn ymrwymo i hunan-eithrio.
9.4. Gallwch, os ydych yn dymuno hunan-eithrio o’r Loteri, hefyd wneud cais i hunan-eithrio o bob loteri arall y mae ZenterPrize yn ei gweinyddu.
9.5. Os ydych yn dymuno hunan-eithrio o’r Loteri, fe’ch anogir i ystyried hunan-eithrio o bob math o gamblo.
9.6 Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod chwarae yn hwyl. Rydym yn cymryd hyn o ddifrif. Gellir gweld ein Polisi Gamblo Cyfrifol ar y Wefan a gallwch wneud cais am gopi ar e-bost neu drwy’r post gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar waelod y dudalen.
Cwynion
10.1. Gellir anfon unrhyw gwynion yn ymwneud â’r Loteri drwy’r post, trwy ffurflen ar y Wefan, neu drwy’r post gan ddefnyddio’r manylion ar waelod y dudalen hon, gan roi manylion llawn y gŵyn, a dogfennau ategol.
10.2. Bydd ein penderfyniad yn ymwneud â chwyn a wneir yn unol â’r Rheolau fel arfer yn derfynol ac yn rhwymol.
10.3. Bydd pob cwyn ac anghydfod yn cael eu trin yn unol â gweithdrefnau cwynion ac anghydfodau ZenterPrize, ac mae copi ar gael o swyddfa neu Wefan ZenterPrize.
10.4. Mae ‘anghydfod’ yn ‘gŵyn’ heb ei datrys yn ymwneud â’r Loteri. Os bydd anghydfod na ellir ei ddatrys, gellir ei atgyfeirio at Datrys Anghydfodau Amgen (ADR). Fel aelod o Gyngor y Loteri, endid yr ADR fydd The Independent Betting Adjudication Service (IBAS). Mae IBAS yn wasanaeth y gellir ei ddefnyddio am ddim.
Manylion cyswllt IBAS: Independent Betting Adjudication Service, PO Box 62639, London, EC3P 3AS.
Ffôn: 020 7347 5883
E-bost: adjudication@ibas-uk.co.uk
Atal a Chanslo’r Loteri
11.1. Gallwn, heb roi rheswm na rhybudd, ganslo cais, neu derfynu neu atal y Loteri.
11.2. Bydd ZenterPrize yn ysgrifennu amlinelliad o’r opsiynau a’r gweithredoedd sydd ar gael i chi.
11.3. Gall ZenterPrize (yn ôl ei ddisgresiwn absoliwt) atal y Loteri am unrhyw gyfnod. Bydd gan chwaraewyr hawl i ad-daliad o’r Cronfeydd Cwsmer perthnasol os na fydd y Loteri perthnasol yn digwydd.
11.4. Byddwch yn cael eich hysbysu am fanylion pellach yn ymwneud ag adfer y Loteri neu fel arall cyn gynted ag y bydd hynny’n rhesymol ymarferol.
11.5. Bydd penderfyniadau’r Hyrwyddwr sydd yn ofynnol yn ymwneud ag atal neu ganslo i’w gwneud yn unol â’r Rheolau hyn, unwaith y byddant wedi cael eu gwneud, yn derfynol ac yn rhwymol.
11.6. Ac eithrio pan fydd y Rheolau yn nodi’n benodol fel arall, ni fydd dyletswydd arnom ni i ymateb i unrhyw ohebiaeth na’i ddechrau.
11.7. Ni fydd ad-daliad yn cael ei roi am geisiadau sydd wedi cael eu prynu a’u Cynnwys.
Preifatrwydd
12.1. Mae ZenterPrize wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd. Mae copi o’r Polisi Preifatrwydd ar gael gan ZenterPrize neu’r Wefan. Defnyddir data a gesglir gennych Chi yn gyfreithlon yn unol â Deddf Diogelu Data 2018.
Cronfeydd Cwsmeriaid a Diogelu’r Loteri
13.1. Mae’n ofynnol ar ZenterPrize i hysbysu Chwaraewyr am yr hyn sy’n digwydd i Gronfeydd Cwsmeriaid sydd yn cael eu cadw ar gyfrif, a’r graddau y caiff cronfeydd eu diogelu os bydd ansolfedd. Mae’r Comisiwn Gamblo yn darparu mwy o wybodaeth am amodau trwydded yn nodi’r hyn y mae’n rhaid dweud wrth Chwaraewr am eu cronfeydd.
13.2. Mae cronfeydd cwsmeriaid yn cael eu cadw ar wahân o gronfeydd cwmni ZenterPrize, mewn cyfrif banc ‘cleient’ arbennig ar wahân, wedi ei weinyddu gan ZenterPrize. Fodd bynnag, er bod camau wedi cael eu cymryd i ddiogelu cronfeydd cwsmeriaid, nid oes gwarant absoliwt y bydd yr holl gronfeydd yn cael eu had-dalu. Mae hyn yn bodloni gofynion y Comisiwn Gamblo ar gyfer gwahanu cronfeydd cwsmeriaid ar y lefel: diogelwch canolig. Am fwy o wybodaeth, gweler system graddfeydd ansolfedd cronfeydd cwsmeriaid.
Newidiadau
14.1. Mae ZenterPrize yn cadw’r hawl i ddiwygio neu addasu’r Rheolau unrhyw bryd.
14.2. Bydd mân newidiadau yn cael eu harddangos ar dudalen Hysbysiadau Gwasanaeth y Wefan. Fe’ch cynghorir felly i wirio’r Rheolau yn rheolaidd am ddiwygiadau neu newidiadau o’r fath.
14.3. Bydd newidiadau materol yn cael eu cyhoeddi ar dudalen Hysbysiadau Gwasanaeth y Wefan o leiaf 28 diwrnod cyn i newid gael ei wneud ac fe’ch hysbysir chi gan ddefnyddio eich manylion cofrestredig. Mae newidiadau sy’n cael eu hystyried yn faterol yn cynnwys newidiadau i’r gwobrau, y dull ar gyfer dewis y Rhif Buddugol, pris cais ac unrhyw beth arall y mae ZenterPrize yn ei ystyried yn arwyddocaol o dan ddarpariaethau y Ddeddf.
Atebolrwydd
15.1. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw Chwaraewr mewn contract, camwedd, esgeulustod neu fel arall am unrhyw golled anuniongyrchol neu ganlyniadol a ddioddefir mewn perthynas â chymryd rhan yn y Loteri, (gan gynnwys colli cyfle i gymryd rhan yn y Loteri a / neu y cyfle o ennill gwobr).
15.2. Trwy gael eich cynnwys yn y Loteri, rydych yn cytuno i fod yn gaeth i’r Rheolau, a darpariaethau perthnasol y Ddeddf ac unrhyw reoliadau perthnasol a wneir trwy hynny o bryd i’w gilydd. Ni fydd ZenterPrize yn atebol am unrhyw golled neu niwed (gan gynnwys colli cyfle i gymryd rhan yn y Loteri a / neu yr hawl i dderbyn gwobr) a ddioddefir gennych chi os nad ydych wedi cydymffurfio â’r Rheolau.
15.3. Ar wahân i ddychwelyd unrhyw Gronfeydd Cwsmeriaid wedi eu cadw ar gyfrif ar gyfer Loterïau yn y dyfodol a dyfarnu gwobrau a enillwyd mewn Loterïau wedi eu cwblhau yn unol â’r Rheolau, ni fyddwn yn atebol i unrhyw chwaraewr am unrhyw golled neu niwed gwirioneddol neu dybiedig (yn cynnwys colli cyfle i gymryd rhan yn y Loteri a / neu’r hawl i dderbyn gwobr) a ddioddefir gan unrhyw Chwaraewr sy’n deillio o:
15.3.1. Unrhyw oedi neu fethiannau yn y gwasanaeth post neu ddull dosbarthu arall a ddefnyddir gan ZenterPrize neu unrhyw Chwaraewr o bryd i’w gilydd.
15.3.2. Unrhyw oedi neu fethiannau mewn unrhyw systemau a ddefnyddir gan ZenterPrize neu unrhyw Chwaraewr i drosglwyddo negeseuon e-bost.
15.3.3. Unrhyw fethiant mewn unrhyw feddalwedd neu systemau eraill a ddefnyddir gan ZenterPrize ar gyfer gweinyddu’r Loteri.
15.3.4. Unrhyw oedi neu fethiannau yn y system fancio a ddefnyddir gan ZenterPrize neu unrhyw Chwaraewr.
15.3.5. Unrhyw wrthodiad gan ZenterPrize i dderbyn cofrestriad unigolyn fel Chwaraewr neu ganslo Chwaraewr gan ZenterPrize.
15.3.6. Unrhyw fethiant i gynnwys eich Rhif Lwcus mewn Loteri.
15.3.7. Unrhyw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth resymol ZenterPrize.
15.3.8. Unrhyw golled neu niwed (yn cynnwys colli cyfle i gael eich cynnwys yn y Loteri a / neu’r hawl i dderbyn gwobr) a ddioddefir gan unrhyw Chwaraewr os yw manylion personol y Chwaraewr yn anghywir.
15.3.9. Methiant unrhyw Chwaraewr i ddarparu gwybodaeth gywir wrth gofrestru, neu fethu wedi hynny i roi gwybod i ZenterPrize am unrhyw newidiadau.
15.3.10. Canslo neu atal y loteri.
Ceisiadau gan yr Hyrwyddwr a ZenterPrize
16.1. Nid yw aelodau a swyddogion yr Hyrwyddwr yn cael eu hatal rhag chwarae’r Loteri.
16.2. Mae gweithwyr ZenterPrize, eu partneriaid a phersonau sy’n byw ar yr un aelwyd, wedi eu hatal rhag chwarae’r Loteri.
Manylion Cyswllt:
Cwynion
Drwy’r Post: Beautiful Wales Lottery Complaints, ZenterPrize, BriteVox House, Queensway Business Park, Telford, TF1 7UL, United Kingdom
Ar E-bost: lottery@beautifulwaleslottery.cymru
Hunan-eithrio:
Drwy’r Post: Beautiful Wales Lottery Self-exclusion, ZenterPrize, BriteVox House, Queensway Business Park, Telford, TF1 7UL, United Kingdom
Ar E-bost: lottery@beautifulwaleslottery.cymru
Diweddaru Eich Gwybodaeth:
Drwy’r Post: Beautiful Wales Lottery Player Update, ZenterPrize, BriteVox House, Queensway Business Park, Telford, TF1 7UL, United Kingdom
Ar E-bost: lottery@beautifulwaleslottery.cymru
Ymholiadau Eraill
Drwy’r Post: Beautiful Wales Lottery, ZenterPrize, BriteVox House, Queensway Business Park, Telford, TF1 7UL, United Kingdom
Ar E-bost: lottery@beautifulwaleslottery.cymru